Cynhyrchiad newydd yn arbennig ar gyfer plant rhwng 4 a 9 mlwydd oed.
Dyma balas hardd…..ac mor foethus hefyd….cartref i’r Brenin March! Dyma brenin cyfoethog….ac mor ddoeth hefyd…..brenin ar bobl ffodus iawn. Ond er bod ganddo balas hardd a digon o gyfoeth, nid oedd y Brenin March yn hapus. Pam? Wel……roedd ganddo gyfrinach….cyfrinach oedd yn pwyso’n drwm…….cyfrinach oedd yn ymwneud â………CLUSTIAU MARCH!
Caiff y stori hyfryd hon ei hadrodd gan ddefynyddio pypedau, drama a cherddoriaeth. Ei bwriad yw ein hatgoffa ni oll mor bwysig yw i rannu ein meddyliau a’n teimladau, ac y dylem ni i gyd ein gwerthfawrogi ein hunain am bwy ydym ni. DYDDIADAU AR GAEL - Dydd Llun 2ail Tachwedd tan Ddydd Mawrth 22ain Rhagfyr 2009
Mae’r cynhyrchiad yn parhau 45 munud a dymunwn 40 munud i baratoi. Argymhellwn nad oes mwy na 120 o blant yn gwylio pob perfformiad.
|